EIN PARTNERIAETH
SAINT-GOBAIN
mewn partneriaeth ag Adra, Cymdeithas Dai mwyaf gogledd Cymru yn darparu sgiliau ôl-osod i gymunedau yng ngogledd Cymru.
EIN PARTNERIAETH
SAINT-GOBAIN
mewn partneriaeth ag ADRA, Cymdeithas Dai mwyaf gogledd Cymru yn darparu sgiliau ôl-osod i gymunedau yng ngogledd Cymru.
Mae Saint-Gobain UK mewn partneriaeth gyda chymdeithas dai mwyaf gogledd Cymru, Adra, a Thŷ Gwyrddfai, yr hwb datgarboneiddio cyntaf yn y DU, yn helpu i ddarparu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer adeiladu cynaliadwy newydd ac ôl-osod tŷ cyfan.
Mae'r bartneriaeth hefyd yn dod ag Adra, Cymdeithas Dai fwyaf gogledd Cymru, Prifysgol Bangor a CIST Busnes@LlandrilloMenai, y grŵp mwyaf o golegau addysg bellach y rhanbarth, at ei gilydd,
Yn mynd i'r afael â'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer adeiladu cynaliadwy ac ôl-osod tŷ cyfan
Fel rhan o'r bartneriaeth, mae hwb hyfforddi newydd wedi'i sefydlu i ganolbwyntio ar ddarparu cymwysterau a phrentisiaethau o safon uchel, gydnabyddedig mewn datrysiadau a sgiliau adeiladu. Bydd y cymwysterau a sgiliau yma yn cael eu cyflawni gan fyfyrwyr coleg a chrefftwyr yng ngogledd Cymru a thu hwnt, ac yn hanfodol i sicrhau gwaith o safon wrth ôl-osod tai.
Mae ôl-osod cartrefi presennol i'w gwneud yn gynhesach, llai costus i'w gwresogi, mwy cyfforddus a gwella lles trigolion yn flaenoriaeth a rennir gan Saint-Gobain a Thŷ Gwyrddfai. Mae Adra hefyd yn dymuno gweithio gyda chrefftwyr lleol i gefnogi trawsnewid cartrefi yn y gymuned, ac mae dros 7000 o gartrefi yn y gymdeithas dai i'w cynnal ac ôl-osod, yn ogystal â'i weithlu ei hun yn barod i gael eu huwchsgilio i gwblhau'r dasg yma.
Gyda'n gilydd, drwy'r bartneriaeth, caiff prentisiaethau cydnabyddedig eu cyflawni a chymwysterau eraill sy'n canolbwyntio ar fesurau penodol sy'n hanfodol i ôl-osod cartrefi gan gynnwys gosod Inswleiddiad Wal Allanol a Mewnol a mesurau inswleiddio atig.


"Mae Saint-Gobain yn falch iawn o gychwyn ar y bartneriaeth adeiladu ac un sy'n canolbwyntio ar sgiliau gyda Thŷ Gwyrddfai. Mae gan Saint-Gobain ymrwymiad tymor hir i ddarparu hyfforddiant adeiladu o safon uchel. Gyda'n rhwydwaith o saith academi hyfforddi, ein 50+ o bartneriaethau gyda cholegau ac ysgolion neu ein gwaith gyda Barnardo's ac Youthbuild sydd wedi hen sefydlu; mae darparu sgiliau a chymwysterau fel bod pobl yn gallu cyflawni datrysiadau adeiladu yn cyflwyno manteision mawr i bobl, busnesau a'r gymdeithas gyfan. Rydym yn falch iawn o ymestyn ar y gwaith yma drwy'r bartneriaeth newydd yma yng ngogledd Cymru gyda phrosiect datgarboneiddio gwych - Tŷ Gwyrddfai."
Dywedodd Mike Chaldecott, prif weithredwr saint-gobain uk

"Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r bartneriaeth drawsnewidiol yma gyda Saint-Gobain a Thŷ Gwyrddfai. Mae'r cydweithio yma nid yn unig yn bwysig i fynd i'r afael â'r angen brys am ddatrysiadau tai cynaliadwy ond hefyd i roi sgiliau hanfodol i'n gweithlu lleol.
Drwy ôl-osod ein stoc tai presennol ac uwchsgilio ein crefftwyr, rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd ein trigolion a chyfrannu at y nodau ehangach o gynaliadwyedd amgylcheddol. Gyda'n partneriaid, rydym yn adeiladu dyfodol gwell, mwy cynaliadwy ar gyfer gogledd Cymru."
Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra

"Mae lansio'r hwb hyfforddi datgarboneiddio yma yn Nhŷ Gwyrddfai yn nodi cam sylweddol ymlaen yn ein cenhadaeth i ddarparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf mewn adeiladau cynaliadwy. Drwy gydweithio gyda Saint-Gobain, Adra, a Phrifysgol Bangor, byddwn yn sicrhau ein bod yn darparu rhaglenni hyfforddi o safon uchel sy'n hanfodol i ôl-osod cartrefi a lleihau defnydd o ynni."
I Gloi Dywedodd Gareth Hughes, Rheolwr Canolfan Cist, Busnes@llandrillomenai
Saint Gobain yw'r Arweinydd Byd-eang mewn Adeiladu Ysgafn a Chynaliadwy
Mae Grŵp Saint-Gobain ymhlith y 100 grŵp diwydiannol gorau yn y byd ac yn arweinydd byd-eang mewn adeiladu ysgafn a chynaliadwy.
Pwrpas y cwmni yw "Gwneud y Byd yn Gartref Gwell", sy'n adlewyrchu ei ymrwymiad i gynaliadwyedd a gwella ansawdd bywyd ar gyfer pobl o amgylch y byd. Mae datrysiadau Saint-Gobain wedi'u dylunio i ddarparu amgylchedd mwy cyfforddus, perfformiad, a diogelwch ac ateb yr heriau a ddaw gydag adeiladu cynaliadwy, effeithlonrwydd adnoddau, a newid hinsawdd.
Mae rhai o'r deunyddiau adeiladu mwyaf dibynadwy a rhai y mae parch mawr atynt yn rhan o Grŵp Saint-Gobain gan gynnwys: British Gypsum, Isover, Weber a Saint-Gobain Glass.
